Cymryd Rhan

Take Part

Cael Hwyl 

Have Fun

#chwarae   #play

Cyfle i BOB plentyn ysgol yng Nghymru gymryd rhan mewn gweithgareddau pêl-droed heb unrhyw stigma ynghylch ennill, colli na faint o goliau sy’n cael eu sgorio.


Mae ysgolion yn derbyn strwythur clir o ffyrdd o ymgysylltu a hyrwyddo gwahanol fathau o ddigwyddiadau, gweithgareddau allgyrsiol neu weithgareddau a drefnir o fewn yr ysgol.

A chance for ALL school children in Wales to participate in football related activities without any stigma around winning, losing or how many goals are scored.


Schools are provided with a clear structure of ways to engage and promote various types of fixtures, extra curricular activities or intra school organised activities.

Pam?

Mae'r ffaith bod chwaraewyr yn rhoi'r gorau i chwarae wrth iidynt symud o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd wedi'i gydnabod, ac felly mae Cymdeithas Bêl-droed Ysgolion Cymru mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth CBDC wedi mynd ati i fynd i'r afael â hyn trwy amrywiaeth o weithgareddau cyfranogiad a drefnir ac a gynhelir gan ysgolion.


Bydd y ffocws ar gyfranogiad, ni fydd canlyniadau a sgorau'n cael eu cofnodi a bydd pob math o weithgaredd yn cael eiu gwobrwyo gan bwyntiau cyfranogiad.

Sut?

Rhwng ysgolion: Gemau yn erbyn ysgolion eraill gan ddefnyddio chwaraewyr nad ydynt yn chwarae'n rheolaidd neu a fyddai'n aml yn eilyddion. Ni fydd unrhyw ganlyniadau yn cael eu cofnodi, dim ond nifer y chwaraewyr a'u statws e.e nad yw'n glwb, rhyw ag ati.


O fewn yr ysgol: Gweithgaredd wedi'i drefnu ar ôl ysgol; gweithgaredd 5 bob ochr neu weithgaredd rhynglysol yw rhai ffyrdd yn unig y gall ysgolion ymgysylltu ag ystod lawn o fyfyrwyr mewn pêl-droed hwyliog a phleserus. Nid oes angen cofnodi canlyniadau, dim ond nifer y chwaraewyr a'u statws e.e. nad yw'n glwb, rhyw ag ati.

Why?

The drop off of players from Primary into Secondary education has been recognised and so Welsh Schools' FA in partnership with the FAW Trust has set about addressing this through a range of participation activities organised and run by schools.

The focus will be on participation, results and scores won't be recorded and each type of activity rewarded with participation points.


How?

Inter school: Fixtures against other schools using players who don't regularly play or would often be substitutes. No scores or wins will be recorded, just numbers of players and their status eg non club, gender etc

Intra school: Inter form, after school organised activity, 5-a-sides are just some ways schools can engage a full range of students in fun and enjoyable football. Scores and wins don't need to be recorded, just numbers of players and their status  eg non club, gender etc

Mae Cymdeithas Pêl-droed Ysgolion Cymru yn falch i gyhoeddi rhaglen newydd sydd yn anelu i gynyddu cyfranogiad yn y gem.

#chwarae #play


Mae’r rhaglen yn ddatblygiad newydd mewn partneriaeth gyda’r Ymddiriedolaeth Pêl-Droed ac wedi ei chynllunio i ychwanegu at y profiadau pêl-droed mae ysgolion yn cynnig i ddisgyblion.

Bydd disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru sydd ddim yn chwarae yn rheolaidd i glwb neu’r ysgol yn gallu profi pêl-droed mewn amgylcheddau gwahanol.

Mae’r bartneriaeth yn torri tir newydd i sicrhau fod Cymdeithas Pêl-droed Ysgolion Cymru yn gyrru y gêm ymlaen mewn ysgolion uwchradd ar draws y wlad fel rhan o strategaeth yr Ymddiriedolaeth er mwyn gwella’r cyfleuon I chwarae y gem mewn ysgolion.



Datganiad gan Gymdeithas Pêl-Droed Ysgolion Cymru:

“Fel cadeirydd Cymdeithas Pêl-Droed Ysgolion Cymru rwy’n falch i gyhoeddu y cytundeb rhwng y Gymdeithas a’r Ymddiriedolaeth i anog mwy o gyfleuon i ddisgyblion o bob gallu i chwarae mwy o bêl-droed mewn ysgolion. Ers canrif mae’r Gymdeithas wedi cynnig cyfleuon i ddisgyblion chwarae gemau rhyngwladol, rhyng-sirol a rhwng ysgolion. Bydd y cytundeb newydd yma yn anog disgyblion o bob gallu i chwarae yn yr ysgol. Yn y pendraw bydd hyn yn cynyddu y niferoedd sy’n chwarae y gem yng Nghymru.’

Martin Evans, Cadeirydd Cymdeithas Pêl-droed Ysgolion Cymru.



Bydd pob ysgol yn derbyn manylion ychwanegol, penodol am beth yn union sydd angen ei wneud a sut y gallant fod yn rhan o’r rhaglen. 

Welsh Schools’ FA is delighted to announce the release of our new participation programme called

#chwarae #play


This programme is a new development in partnership with the FAW Trust, designed to increase football opportunities available to secondary school pupils.

Newly formed intra and inter school programmes will provide more opportunities to pupils not regularly playing the game in a school or club setting which will see a wider range of experiences for all secondary students across Wales to engage in football activity.

This ground-breaking partnership will ensure Welsh Schools’ FA and FAW Trust work together to improve football provision in schools and all secondary schools across Wales play their part in increasing participation as part of the FAW’s strategy for growing the game.


WSFA Quote:

“As Chairman of the Welsh Schools’ Football Association I am delighted to announce this Agreement with the FAW/FAW Trust to encourage more opportunities for pupils of all abilities to play more football in schools. The WSFA has provided International, Inter Association and Inter School football for over 100 years. This new agreement will encourage pupils of all abilities to play football in school and then outside school in turn increasing the large numbers already playing in Wales.”

Martin Evans, WSFA Chairman


FAW Trust Quote:


Every school in Wales will receive extra more detailed information on the finer details and how they can be part of the programme.

Share by: